Betws-y-Coed

Os ydych chi yn Eryri, bydd pob heol yn arwain (yn y pen draw) i Fetws-y-Coed dlos, y pentref sy’n borth naturiol i’r mynyddoedd. Mae’n lle rhagorol i leoli eich hun ar gyfer gwyliau cerdded neu seiclo, wrth i sawl llwybr da arwain o’r pentref ei hun, fel y ddringfa drwy’r coed i Lyn Elsi, neu’r llwybr hamddenol ar hyd glan yr afon i’r Rhaeadr Ewynnol. Dyma i chi ffaith: Betws-y-Coed yw’r lle a gamsillefir fwyaf ym Mhrydain gyfan (darganfu’r wefan leol 364 amrywiad gwahanol). Mae hyn yn ddirgelwch braidd - wedi’r cyfan, maen nhw’n dri gair bach digon syml…

Pont garreg lwyd dros afon gul.

Betws-y-Coed, Conwy

Aber Mawddach

Mae Afon Mawddach yn cwrdd â’r môr yn ein haber mwyaf syfrdanol o hardd, gan gerfio twll mawr tywodlyd drwy fynyddoedd Eryri. Bob ochr i’r aber mae dwy dref atyniadol, sef Y Friog ac Abermaw (neu’r Bermo ar lafar), a gysylltir â’i gilydd â hen draphont bren sigledig yr olwg, a rennir gan gerddwyr, seiclwyr a threnau. Yn ôl y bardd William Wordsworth, ‘With a fine sea view in front, the mountains behind, the glorious estuary running eight miles inland, and Cadair Idris within compass of a day’s walk, Barmouth can always hold its own against any rival.’ 

Delwedd o gychod bach yn harbwr Barmouth a thai a bryniau yn y cefndir.
Pont rheilffordd a chwch bychan adeg llanw isel

Abermaw, Gogledd Cymru

Distyllfa Dyfi

Dechreuodd Distyllfa Dyfi wneud jin yn 2016, ac yn 2017 fe enillon nhw nifer o wobrau jin-gorau-Prydain, ac ymhen dim, roedd pob potel wedi gwerthu’n llwyr! Ac mae’r gwobrau’n dal i ddod – enillodd y cwmni dair medal yng Ngwobrau Jin y Byd 2020. Enillodd eu Dyfi Original y tlws am y Jin Sych Cymreig Gorau, gyda’u Pollination Gin yn ennill medal aur, a’u Hibernation Gin yn ennill medal arian. Dim ond fesul nifer fach o boteli y byddan nhw’n distyllu, gan ddefnyddio perlysiau a gasglwyd o gwm pellennig sy’n lleoliad i’r unig Fiosffer y Byd UNESCO yng Nghymru. Mae'n werth teithio i'r ddistyllfa i gael blas iawn ar y broses - a'r cynnyrch.

Set o boteli Dyfi Gin ar silff

Distyllfa Dyfi, Corris

Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol

Mae seiclo wedi bod yn beth mawr yng Nghymru ers tro byd. Yn ôl yr hyfforddwr o fri Syr Dave Brailsford, y rheswm am hynny yw bod yma ddigon o ffyrdd cefn tawel a bryniau mawr yma - sef hoff gynefin y seiclwr. Mae hi’n hollol addas felly fod yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol yma ynghanol tir delfrydol y beicwyr yn Llandrindod. Mae dros 260 o feiciau i’w gweld yma, o ysgydwyr esgyrn hynafol i’r teclynnau carbon hi-tec diweddaraf, a digon o staff gwybodus i ddangos y cyfan i chi.

Cynnyrch lafant Cymreig FARMERS'

Mae’r caeau lafant ger Llanfair-ym-Muallt yn cynhyrchu’r olew persawrus sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu hufenau, balmau a deunyddiau gofal croen amrywiol cynnyrch FARMERS’. Gallwch ymweld fwy neu lai bob dydd yn yr haf (mae’n bert iawn, mae’r golygfeydd yn fendigedig, ac mae cacen ar y fwydlen) – ond ffoniwch ymlaen llaw i wirio nad yw pawb allan yn tendio’r blodau.

Oriel Gorsaf Erwyd

Hen goetsys rheilffordd yw’r orielau yng Ngorsaf Erwyd, a arferai wasanaethu rheilffordd Aberhonddu – Llanfair-ym-Muallt cyn ei chau yn y 1960au. Bellach ceir yma ddewis amrywiol iawn o ddarluniau, gwaith serameg, cerfluniau a gemwaith. Mae yma gaffi helpu-eich-hun a llwybrau hyfryd i’w cerdded ar lan Afon Gwy, sy’n llifo gerllaw.

Car yn croesi pont yn Erwyd, Canolbarth Cymru.

Erwyd, Powys

Fferm Gigrin

Y barcud coch yw un o lwyddiannau mawr y byd cadwraethol. Er marw’n ôl yn llwyr ledled Prydain, bron, fe lwyddodd un neu ddau i oroesi mewn corneli diarffordd ym mlaenau dyffrynnoedd Cothi a Thywi. Erbyn heddiw, maen nhw i’w gweld yn aml – ac wastad yn werth eu gweld hefyd – ym mhob cwr o Gymru bron. I weld y sioe orau gan yr adar bendigedig hyn, daw rhyw 600 o’r adar ysglyfaethus i fwydo’n ddyddiol yn Fferm Gigrin, ynghyd â nifer o fodaod a chigfrain hefyd.

Barcudiaid coch yn hedfan yn yr awyr llwyd o gwmpas coed gwyrdd
Grŵp o farcutiaid coch yn hedfan ac yn glanio.

Fferm Gigrin

Distyllfa Penderyn

Anfonwyd distyllfeydd Cymru i’w tranc gan ddiwygwyr Anghydffurfiol y 19eg ganrif, a dim ond dechrau cropian yn ôl yma y maen nhw yn yr 21ain ganrif. Y seren yw Penderyn, sy’n gwneud whisgi rhagorol ar odre Bannau Brycheiniog. Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor yn ddyddiol.

Grŵp o ymwelwyr ar daith Distyllfa Penderyn

Distyllfa Penderyn

Parc Treftadaeth y Rhondda

Cymoedd y Rhondda (y Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach) yw ardal gynhyrchu glo enwoca’r byd. Arferai 53 o lofeydd fod ar waith yn y Rhondda, a chadwyd un – glofa Lewis Merthyr – fel Parc Treftadaeth y Rhondda, amgueddfa hanes byw sy’n ail-greu’n eglur galedi a chwmnïaeth cymunedau glofaol y Cymoedd. Cyn-lowyr go iawn yw pob un o’r tywyswyr, ac yn y caffi, cewch flasu bwyd y Cymry Eidalaidd, fu’n rhan ganolog o fywyd yr ardal ers dros ganrif a mwy.

Straeon cysylltiedig