Y Ganolfan Ddehongli

Dechreuwch yn y Ganolfan Ddehongli, lle cewch deimlad o hanes y castell, o’i darddiadau yn oes y Rhufeiniaid i’r trawsnewidiadau Gothig rhyfeddol a ddigwyddodd yn ystod y 19eg ganrif. Codwch un o’r canllawiau sain cludadwy os na fyddwch yn mynd ar daith dywysedig. Maent ar gael mewn deg iaith, a fersiwn i blant hefyd, i’ch helpu i gael y mwyaf o’ch ymweliad. Gallwch hefyd lawrlwytho Ap Castell Caerdydd ar eich ffôn clyfar (defnyddiwch y gwasanaeth wi-fi am ddim).

Llun o dŵr y castell gyda baner Cymru yn hedfan

Castell Caerdydd

Cyfrinachau tanddaearol

Un o gyfrinachau diddorol niferus Caerdydd y byddwch chi’n eu datgloi wrth ymweld â Chastell Caerdydd yw’r rhwydwaith o dwnelau tanddaearol. Mae’r llwybrau hyn, a ddefnyddid yn llochesau cyrch awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhwng lefel y llawr gwaelod a lefel y bylchfur, a lle i ryw 2,000 o bobl o ganol y ddinas.

Ar ei ffurf bresennol, Castell Caerdydd yw ffrwyth trawsnewidiad rhyfeddol a gyflawnwyd tua diwedd y 19eg ganrif gan y pensaer hynod, William Burges. Ef a greodd rai o’r ystafelloedd mwyaf coeth ym Mhrydain, wedi’i ysbrydoli gan y dulliau Gothig, Mediteranaidd ac Arabaidd. Rhaid eu gweld er mwyn eu credu.

Mae yma gymaint o hanes a manylder nes ei bod yn werth mynd ar daith o’r tŷ. Mae’r tywysyddion arbenigol yn adnabod pob twll a chornel ohono, a chewch ymweld â 10 o ystafelloedd ysblennydd.

Llun o nenfwd hardd
Llun o ymwelwyr tu fewn i un o ystafelloedd Castell Caerdydd

Tu fewn i ystafelloedd yng Nghastell Caerdydd

Tŵr unigryw

Mae Teithiau Tŵr y Cloc yn wych. Fe’u cynhelir ar benwythnosau, ac mae’n gyfle i ymwelwyr ddringo’r grisiau tro hir i Dŵr y Cloc ac Ystafell Ysmygu’r Haf. Mae’r ddau’n enghreifftiau rhyfeddol o ddychymyg ffrwythlon Burges am ddylunio mewnol lliwgar, manwl.

Os bu’r cyfoeth (neu’r 101 o risiau) yn ormod i chi, arhoswch am baned yng Nghaffi’r Castell. Oddi yno, cewch olygfeydd o’r Gorthwr Normanaidd a’r Castell ar draws y teras allanol, gan wylio pobl eraill yn archwilio rhyfeddodau’r castell. Os yw ar gael, cofiwch flasu’r cawl.

Llun agos o'r cloc ar dŵr cloc Castell Caerdydd

Tŵr y Cloc

Amgueddfa'r castell

Firing Line yw Amgueddfa'r Milwr Cymreig sydd yng Nghastell Caerdydd. Yno, adroddir hanesion ac arddangosir pethau cofiadwy o dros 300 mlynedd o wasanaeth gan ddwy o gatrodau Cymru, sef Gwarchodlu 1af Dragŵn y Frenhines a’r Gatrawd Frenhinol Gymreig. Mae mynediad i amgueddfa Firing Line yn rhan o’ch tocyn i ymweld â’r castell.

Ar ôl hynny, galwch yn y siop roddion am swfenîr, cyn mynd am dro ym Mharc Bute. Cydnabuwyd y parc yn dirwedd hanesyddol wedi ei dylunio gradd 1, ac mae yna bron 150 erw o fannau gwyrdd o gwmpas y castell, a choed o bedwar ban.

Marchogion ar garlam

Mae Castell Caerdydd yn ferw gwyllt drwy gydol y flwyddyn, a phob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yno. Cynhelir dros 200 o wleddoedd Cymreig bob blwyddyn, lle gall ymwelwyr fwynhau noson o fwyd ac adloniant Cymreig traddodiadol.

Cynhelir Joust! ar dir y castell ar y trydydd penwythnos ym mis Mehefin, gyda brwydrau canoloesol yn cael eu hail-greu, storïau’n cael eu hadrodd, clerwyr a chystadlaethau ymladd ddwywaith y dydd.

Wythnos o ddathlu’r Gymraeg yw Tafwyl ym mis Mehefin, sy’n croesawu Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd. Cynhelir ei phrif ddigwyddiad – sef penwythnos o arddangos cerddoriaeth, diwylliant, chwaraeon a bwyd stryd Cymru – ar dir y castell.

Mae’r Sgarmes Ganoloesol Fawreddog yng nghanol mis Awst yn fwrlwm arall o gleddyfau, gwaywffyn a phastynau, wrth i farchogion medrus frwydro am oruchafiaeth.

Dwy fenyw yn cerdded ym Mharc Bute gyda choed hydrefol a Chastell Caerdydd yn y cefndir

Parc Bute

Straeon cysylltiedig