Gwarchodfa Forol Sgomer, Sir Benfro

Dyma un o fy ffefrynnau. Mae’r lle mor brydferth, a hyd yn oed cyn i chi fynd o dan y dŵr fe welwch chi forloi, palod yn yr haf, a llamhidyddion hefyd yn aml iawn. O dan y don byddwch yng nghanol amrywiaeth ryfeddol o bysgod, gan gynnwys y môr-wyntyll pinc, pysgodyn o Fôr y Canoldir sy’n ffynnu yma yn llif y gwlff. Felly mae’n lle prydferth, ac mae pawb wrth eu bodd yn nofio â morloi, ac wrth blymio i ddyfnder o 40 metr oddi ar lannau’r ynys, fe ddewch chi o hyd i long ddrylliedig Lucy. Ond mae digon o ddŵr bas yn Sgomer, sy’n golygu y gall dechreuwyr roi cynnig arni hefyd.

Golygfa o glogwyni ar yr arfordir ar môr
Pâl yr Iwerydd gyda glaswellt yn ei big

Ynys Sgomer, Sir Benfro

Staciau’r Heligog/Iâr a’i Chywion, Sir Benfro

Llai adnabyddus, efallai, ond mewn rhai ffyrdd mae’n well gen i’r fan yma na Sgomer. Nid yw'n bell o Little Haven ac fel Sgomer, mae morloi yma. Ond mae’r dŵr yn gliriach yma na’r unman arall yn yr ardal, dydy’r cerrynt ddim yn rhy gryf, ac mae’r dŵr yn cyrraedd dyfnder o 24 metr, sy’n ddigon rhwydd i blymwyr. Fe welwch chi bob math o bethau difyr o dan y don: cerrig mawr, cribau, môr-wiail, twyni tywod a chregyn bylchog. Mae’n hyfryd yma. Mae’r dyfroedd o amgylch yr Iâr a’i Chywion yn enwog am y pysgod clicied enfawr sy’n dod yma ddiwedd pob haf.

Llun o forlo yn edrych allan o'r dŵr ar y camera

Morlo llwyd yn Sir Benfro

Bae Sain Ffraid, Sir Benfro

Byddwn ni’n dod yma i hyfforddi neu i gael amser tawel gyda phlymwyr sydd heb lawer o brofiad o ddyfroedd Cymru.  Mae traeth gwyn hyfryd yma gyda choedwig o fôr-wiail o’i gwmpas. Felly fe welwch chi gimychiaid, crancod, gwrachod y môr, morleisiaid a morgwn, lledod yn y tywod a phob math o greaduriaid bach difyr. Mae’r rhan ddyfnaf yn 12 metr, ond mae creigres ychydig yn bellach o’r lan lle gall deifwyr mwy profiadol blymio i ddyfnder o 15-18 metr. Dyma le delfrydol felly i roi cynnig ar blymio'n ddiogel.

SS Missouri, Ynys Môn

Drylliodd y llong bedwar mast hon ym Mhorth Dafarch ym 1880. Mae’n gorwedd ar dywod gwastad tua 13 metr o dan y dŵr, wedi’i chysgodi rhag y cerrynt, felly mae’n lle delfrydol i fynd ar eich deif gyntaf i weld llong ddrylliedig. Fe synnech chi faint o’r llong sydd ar ôl – y pen blaen a’r winsh, yr hwylbrennau blaen ar wely’r môr, a’r boeleri stêm – ac wrth i’r tywod symud daw rhannau o’r dec i’r golwg. Ar ben hynny fe welwch chi gimychiaid, gwrachod y môr a morleisiaid. Digon o gyffro felly, a ffordd ddiogel iawn o roi cynnig ar blymio i weld llong ddrylliedig.

Goleudwr Rhoscolyn, Ynys Môn

Fe allech chi dreulio’ch bywyd yn plymio ar lannau Ynys Môn, ond mae lle rhagorol yma yng nghysgod y goleudwr a saif ar ben pellaf Ynys y Gwylanod. Mae’r greigres o bobtu’r goleudwr yn disgyn yn go sydyn i ddyfnder o 18 metr. Er bod y llanw’n gyfnewidiol iawn yma, fe gewch chi loches bob amser, ac i rai mwy profiadol, dyma un o’r llefydd gorau ym Mhrydain i blymio gyda’r llif; mae’n cyrraedd tair not ar adegau. Wrth i’r cerrynt ddod â’u bwyd mae’r anemonïau môr yn blodeuo, y cimychiaid yn dod allan o’u cuddfannau a’r pysgod yn nofio tua’r cerrynt. Mae’n anhygoel faint o fywyd sydd yn y dyfroedd yma.

Straeon cysylltiedig