Castell Cydweli, Sir Gaerfyrddin

Nid dyma gastell mwyaf adnabyddus Cymru, ond mae wir yn gastell rhagorol. Mae llawer o'r adeiladwaith yn dal i fod yn gyfan. Fe adeiladwyd y castell allan o gerrig cryf lleol yn y 13eg a'r 14eg ganrif ar safle hen gaer Normanaidd. Mae'r waliau a'r tyrrau mawreddog yn rhythu dros y dyffryn tawel islaw.

Twr y Castell Llwyd y tu mewn i waliau'r Castell, wedi'i amgylchynu gyda glaswellt
Golygfa o adfeilion y tu mewn i Gastell Cydweli

Castell Cydweli, Sir Gaerfyrddin

Cofeb Glowyr Six Bells, Abertyleri, Blaenau Gwent

Crewyd cerflun hynod Sebastien Boyesen o löwr, sy'n 20m o uchder, yn 2010 i goffáu trychineb lofaol Six Bells ym 1960 pan gollodd 45 o ddynion eu bywydau. Gyda cledrau ei ddwylo yn ymestyn allan fel angel gwarcheidiol, mae ganddo ansawdd tryloyw. Mae'r cerflyn wedi cael ei wneud o stribedi o ddur, wei eu weldio gyda'i gilydd yn ofalus.

Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful

Adeiladwyd y plasty hwn o'r 19eg ganrif ar ffurf castell, gyda thyrrau a murflychau. Yn wreiddiol roedd yn gartref i'r perchennog gwaith haearn cyfoethog William Crawshay, ond mae bellach yn amgueddfa hanes lleol ac oriel gelf. Fel rhan o'r eitemau sy'n cael eu harddangos, gellir gweld ffrogiau Laura Ashley, y chwiban stêm gyntaf a chasgliad o borslen.

Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion

Mae'r hyn sydd ar ôl o'r fynachlog Sistersaidd hon, yn cynnwys bwa maen wrth draed colofnau nerthol, yn cynnig cipolwg i ni o'i hen ogoniant. Sefydlwyd yr abaty yn 1164, ac roedd yn sefyll yng nghanol ystad gyfoethog ble fyddai'r mynachod yn ffermio ac yn croesawu pererinion a masnachwyr. Mae'r bardd canol oesol Dafydd ap Gwilym wedi ei gladdu yma, o dan goeden ywen. 

Porth gorllewinol cerfiedig yr abaty

Bwa maen Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion

Castell Ystumllwynarth

Mae yna naws rhamantus i'r castell Normanaidd bychan hwn. Mae'n edrych allan dros Fae Abertawe o'r Mwmbwls, ac fe gredir fod y castell cyntaf ar y safle hwn yn dyddio yn ôl i tua 1106. Yn ystod gwaith cadwraeth diweddar, daethpwyd o hyd i fanylion newydd, yn cynnwys celf graffiti o'r 14eg ganrif. Mae trigolion lleol yn mwynhau ymweld â thir glaswelltog y castell i gael picnic neu i fwynhau dramâu, cyngherddau, canu carolau a digwyddiadau tymhorol eraill yn yr awyr agored.

Y Deyrnas Gopr, Amlwch, Ynys Môn

Mae'r ganolfan dreftadaeth hon yn adrodd hanes rôl Ynys Môn yn y gorffenol fel prif gynhyrchydd copr y byd. Gallwch ddysgu rhagor trwy arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol. Yn 2013 roedd yr atyniad hwn ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth y Guardian, er mwyn gwobrwyo atyniad treftadaeth i ymwelwyr neu amgueddfa mwyaf ysbrydoledig y DU.

Castell Caerffili

Fel cawr yn cysgu tra'n aros am yr alwad i'r frwydr, mae Castell Caerffili yn enfawr. Yn nhermau arwynebedd, dyma gastell mwyaf Cymru. Ac mae ganddo bopeth y dylai castell ei gael: waliau cerrig trwchus, tyrrau, ffos gyda phont godi a thŵr sy'n edrych yn barod i syrthio ers canrifoedd (mae'n gogwyddo yn fwy na Thŵr Pisa!).

Golygfa o du allan castell wedi'i amgylchynu â dŵr

Castell Caerffili

Safle Treftadaeth Byd UNESCO Blaenafon, Torfaen

Mae Tirlun Diwydiannol Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. O'r 18fed i'r 20fed ganrif roedd y dref yn fwrlwm diwydianol wrth gynhyrchu glo a haearn. Gallwch gael mewnwelediad i'r gorffennol yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a Gwaith Haearn Blaenafon, archwilio'r dref a chael trip ar drên stêm. Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn y dref hefyd, sy'n fan cychwyn gwych ar gyfer eich ymweliad.

Golygfa o siafft godi ac adeiladau Pwll Mawr gyda'r dref yn y cefndir

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Straeon cysylltiedig