Y Mynyddoedd Duon

I'r dwyrain o Fannau Brycheiniog ac i'r gogledd o dref fach Crucywel mae hyfrydwch y Mynyddoedd Duon. Ewch ar hyd un o'r llwybrau niferus i gyrraedd byd arall ar y copa. Taith wefreiddiol at ddant pob cerddwr.

Gŵyl Fwyd y Fenni

Bob mis Medi bydd mawrion y byd bwyd a diod yng Nghymru'n ymgynnull yn nhref farchnad hanesyddol y Fenni i arddangos eu cynnyrch yng Ngŵyl Fwyd y Fenni. Ym mhob cwr o'r dref ac ar y cyrion mae mwy na 200 o stondinau, sesiynau blasu gydag arbenigwyr, dosbarthiadau meistr, arddangosiadau gan gogyddion enwog a darlithoedd, ac yng ngerddi'r castell hynafol mae academi fwyd i blant, cerddoriaeth fyw ac adloniant. Mae naws arbennig i'r ŵyl hon, a chewch gyfle i flasu bwydydd a diodydd gorau Cymru. Penwythnos gwerth chweil.

Grŵp o bobl o amgylch pebyll bwyd mewn gŵyl
 Pobl yn eistedd ar laswellt mewn gŵyl fwyd

Gŵyl Fwyd y Fenni

Abaty Tyndyrn

Gellir olrhain hanes Abaty Tyndyrn yn ôl i’r 12fed ganrif, ac mae’n un o’r eglwysi abadol gorau yng Nghymru o ran ei chywreindeb a’i chyfanrwydd. Bu harddwch urddasol y lle’n ysbrydoliaeth i Ramantwyr y 18fed ganrif, gan gynnwys JMW Turner a William Wordsworth… ac mae’n dal i ysbrydoli pobl heddiw.

Llun o'r tu allan i'r abaty

Abaty Tyndyrn

Brynbuga

Nid yw Brynbuga ond deng milltir o’r M4, ond mae’n teimlo fel byd ar wahân. Saif ar lannau Afon Wysg, un o’r afonydd gorau yn y wlad i ddal eogiaid. Ewch i weld y castell o’r 11eg ganrif, ewch am dro braf ar lan yr afon a mwynhewch y siopau annibynnol braf, yr ystafelloedd te a’r tafarnau ym Mrynbuga.

Camlas Mynwy ac Aberhonddu

Mae Camlas Mynwy ac Aberhonddu'n mynd am 32 milltir drwy hyfrydwch Bannau Brycheiniog, ac mae'n lle bendigedig i'w chymryd hi'n ara' deg. Gallwch logi cwch gan un o'r amrywiaeth o gwmnïau sy'n gweithio'r gamlas, cerdded neu fynd ar gefn beic ar hyd y llwybr halio. Fe welwch chi olygfeydd gwefreiddiol (a chael cyfle i golli rhywfaint o bwysau).

Pont garreg fechan dros yr afon a thai i'r ochr ac yn y pellter

Y gamlas yn Aberhonddu

Y Gaer Rufeinig yng Nghaerllion

Arferai Cymru fod ar gyrion pellaf yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn y flwyddyn 75, adeiladodd y Rhufeiniaid gadarnle yng Nghaerllion a rheoli'r rhanbarth am dros ddau gan mlynedd. Wrth fynd heddiw i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru - wedi'i hadeiladu y tu mewn i adfeilion yr hen gaer - ac fe welwch chi'n union pam oedd y Rhufeiniaid yn dal cymaint o rym, a pha mor wahanol y byddai ein bywydau ni heddiw petai nhw heb fod yma.

Gerddi Llanddewi

Os ydych chi'n dod i ymweld â gerddi yn yr ardal hon, mae'n rhaid i chi fynd yn syth i'r fan yma. Adeiladwyd Gerddi Llanddewi yn oddeutu 1895, yn ddrysfa ryfeddol o ogofâu tanddaearol, twnelau a rhedynogydd isel. Ychydig wedi'r Ail Ryfel Byd fe gladdwyd Gerddi Llanddewi o dan dunelli o bridd, a dim ond yn y flwyddyn 2000 y daethant i'r fei eto. Ers hynny mae'r gerddi hynod hyn wedi cael eu hadnewyddu, a gallwch chwithau ddod i grwydro ymysg y pyllau, y tai gwydr trofannol, y creigerddi a'r gerddi Alpaidd.

Tread and Trot Trails

Defnyddiwch y dulliau diweddaraf o ddarganfod cefn gwlad godidog Sir Fynwy a’i threftadaeth ddiddorol, drwy lawrlwytho’r ap Tread and Trot Trails i’ch iPhone neu ffôn Android. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i lwybrau, cystadlu mewn rasys a gweld bywyd gwyllt wrth i chi fynd yn eich blaen, boed hynny wrth gerdded, ar eich beic neu ar gefn ceffyl. 

Cas-gwent

Does unman cystal â Chymru am gestyll - mae hynny'n ffaith. Cas-gwent oedd y gaer gyntaf a adeiladwyd â cherrig yng Nghymru, a Chastell Cas-gwent sy'n croesawu pobl sy'n dod i'r De dros y ffin o Loegr. Saif yn fawreddog uwchlaw Afon Gwy, ac mae cyffro mawr i'w gael wrth fynd am dro dros y muriau a mwynhau'r golygfeydd gwefreiddiol.

Golygfa o'r tu allan i gastell wedi'i amgylchynu gan goed

Castell Cas-gwent

Straeon cysylltiedig