Beth bynnag eich diddordeb, pa bynnag amser o’r flwyddyn, gallwch brofi antur yn y Canolbarth yng Nghwm Elan, un o fannau mwyaf prydferth Cymru. Mae dros 80% o’r cwm yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn gartref i gronfeydd dŵr, traphontydd dŵr, cannoedd o anifeiliaid a thoreth o gyfleoedd i gael hwyl. Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau at ei gilydd am sut i gael amser cofiadwy ac anturus yng Nghwm Elan. 

llun o'r afon yn cael ei dal yn ôl gan yr argae gyda choedwig a mynyddoedd yn y cefndir

Cwm Elan

Beicio a cherdded

Gyda mynediad agored i’r rhan fwyaf o’r ystâd 70 milltir sgwâr, mae yna sawl llwybr y gallwch eu dilyn er mwyn archwilio’r ardal. P’un ai ydych chi am grwydro’n hamddenol trwy’r gwyrddni a’r argaeau, neu am grwydr mwy heriol ymysg clogwyni creigiog a dyfrffyrdd, bydd yna lwybr addas ar gyfer eich gofynion a’ch gallu. Mae beiciau ar gael i’w llogi’n hawdd, os oes chwant arnoch i weld y golygfeydd ychydig yn gyflymach. Anelwch am Lwybr Cwm Elan os ydych yn chwilio am lwybrau gydag wyneb mwy llyfn.

Golygfa o ddyffryn wedi'i amgylchynu gan afon gyda cymylau gwyn yn yr awyr

Cwm Elan

Syllu ar y sêr 

Mae gan Gwm Elan statws Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol, sy’n golygu y gallwch weld sêr, planedau a chlystyrau o sêr yn disgleirio ar nosweithiau clir gydag ychydig iawn o lygredd golau. Mae Grŵp Seryddiaeth Cwm Elan yn cwrdd yn aml gyda’r nos yn y ganolfan ymwelwyr er mwyn addysgu ymwelwyr am yr wybren ac yn rhoi cyfle i bobl ei archwilio trwy delesgopau.

Anturiaethwyr bach

Mae cadw plant yn brysur yng Nghwm Elan yn eithaf rhwydd. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnal gweithgareddau i’r teulu a diwrnodau gweithgar trwy gydol y flwyddyn, felly cadwch olwg ar eu calendr digwyddiadau.

Golygfa o'r awyr o afon yn llifo dros argae agored gyda coed a mynyddoedd o gwmpas

Pen y Garreg, Cwm Elan

Gwibdaith

Os ydych am archwilio ardal ehangach, beth am yrru o gwmpas yr ystâd? Fe gewch chi’r cyfle i weld golygfeydd trawiadol mewn llai o amser. Neu yn lle hynny, mwynhewch daith wedi ei theilwra ble gallwch ymuno â cheidwad parc ar batrôl mewn Land Rover, yn darganfod nodweddion cuddiedig y cwm. Gallech hefyd gyfuno eich gwibdaith gydag ymweliad i rhywle i gael bwyd, megis Tŷ Penbont, tŷ te traddodiadol Cymreig ger argae Pen y Garreg.

Taith fer i ffwrdd…

Trefyclo

Os mai antur ar droed sy’n mynd â’ch bryd chi mae Canolfan Ymwelwyr Clawdd Offa werth ymweld â hi. Mae yna arddangosfeydd ar hanes yr ardal, ac mae’n rhoi mynediad i Lwybr Clawdd Offa. Mae’r Spaceguard Centre yn Nhrefyclo hefyd, sy’n Ganolfan Wybodaeth Gwrthrychau yn y Gofod (NNEOIC) – yr unig ganolfan yn y DU sy’n delio â’r peryglon o wrthdrawiadau gan gomedau ac asteroidau.

Llanandras

Mae’r hen dref hon yn gyfareddol. Dyma gartref Llety’r Barnwr, sy’n caniatáu i ymwelwyr ddarganfod sut oedd bywyd gweision, barnwyr a gwesteion yna yn ystod Oes Fictoria. Mae The Radnorshire Arms yn adeilad du a gwyn sy’n dyddio yn ôl i 1616.

Dillad yn sychu yn chwarteri’r gwas a dwy gadair wrth y lle tân yn Llety’r Barnwr

Llety'r Barnwr, Llanandras

Rheilffordd Cwm Rheidol

Beth am fynd ar y trên am antur hamddenol ar Reilffordd Cwm Rheidol? Mae un o Drenau Bach Cymru yn teithio trwy Gwm Rheidol, o Aberystwyth i Arfordir Cambria. Am dros 100 mlynedd mae wedi bod yn cyflwyno teithwyr i olygfeydd prydferth yr ardal. 

Trên stêm yn teithio trwy'r mynyddoedd

Rheilffordd Cwm Rheidol, Canolbarth Cymru

Thomas Shop, Penybont

Piciwch i Benybont er mwyn cael gweld Thomas Shop, yr hen siop a thŷ te unigryw yma. Mae yna amgueddfa hiraethus, orielau a chyfleusterau bwyta.

Canolfan Fwydo Barcutiaid Coch Fferm Gigrin

Mae’r fferm deuluol, weithredol, 200 erw hon yn edrych i lawr dros Gymoedd Gwy ac Elan. Mae’n fwyaf enwog am y Ganolfan Fwydo Barcutiaid Coch, ble gall ymwelwyr wylio cannoedd o’r adar yn gwledda’n ddyddiol.

Dau farcud coch yn hedfan
Barcud coch yn hedfan

Barcutiaid coch, Fferm Gigrin

Straeon cysylltiedig